Mae Thema 1 ar gau ar hyn o bryd.
Mae Thema 2 yn agored ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb.
Mae Thema 3 yn agored ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb.
Mae Themau 4 a 5 yn agored ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb.
Mae'r sefyllfa'n debygol o fod yn destun adolygiad yn y dyfodol. Os oes gennych chi brosiect, cysylltwch a ni ac fe wnawn roi gwybod pan fydd arian ar gael.
Ymddiheuriadau am hyn. Cysylltwch â’r tîm ar rdp(at)powys.gov.uk neu 01597 827378 os hoffech drafod y mater ymhellach.
Mae Arwain wedi'i ariannu trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru (CDG) fel rhan o Gronfa Amaethyddol Llywodraeth Cymru ac Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, ac mae'n gweithio gyda Chyngor Sir Powys i gyflawni rhaglen LEADER 2014 - 2010 ym Mhowys.
Mae LEADER yn defnyddio gwybodaeth leol i hybu modd cydgysylltiedig "O'r Bôn i'r Brig" o weithredu y mae'r gymuned yn ei arwain i gyflawni datblygiad gwledig.
Yn dilyn cwblhau Rhaglen LEADER 2007 - 2013 yn llwyddiannus, rydyn ni nawr yn bwriadu dechrau rhaglen newydd.
Mae Grŵp Gweithredu Lleol Powys Yn Un wedi'i lunio, ac fe gyflwynodd hwn Strategaeth Datblygu Lleol i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2014. Mae wedi llwyddo i sicrhau £3,750,000 ar gyfer prosiectau a fydd yn creu cymunedau lleol llewyrchus sydd wedi'u grymuso a'u cysylltu, gan ddarparu datrysiadau cynaliadwy ac arloesol i broblemau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol heddiw ac yfory, er mwyn gwella cyfoeth economaidd y Sir.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r Strategaeth Datblygu Lleol (LDS)
Cliciwch yma i lawrlwytho’r Tabl Rhesymeg Ymyrryd (ILT)
- Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol,
- Hwyluso datblygu cyn-fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr,
- Archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol,
- Ynni adnewyddadwy ar lefel Gymunedol, a
- Manteisio ar dechnoleg ddigidol