Arwain
Atebion arloesol ar gyfer problemau gwledig

Hwyluso datblygu cyn-fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr

Arwain
  • Prosiectau sy'n cysylltu sgiliau ac anghenion â'i gilydd (Cronfeydd Sgiliau)
  • Datblygu partneriaethau busnes newydd neu ehangu rhai sydd eisoes yn bodoli
  • Datblygu cynlluniau mentora/llysgenhadon
  • Prosiectau sy'n creu diwylliant entrepreneuraidd ac arloesol
  • Prosiectau sy'n galluogi cyflogi pobl leol
  • Datblygu cynhyrchion neu brosesau newydd
  • Datblygu a/neu adeiladu ar frandiau Powys
  • Treialu dulliau arloesol o weithredu wrth ddatblygu cadwyni cyflenwi
  • Prosiectau sy'n defnyddio dulliau arloesol o gynyddu nifer y busnesau sy'n ymgysylltu â gwasanaethau cymorth cyhoeddus a phreifat.

Archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol

Arwain
  • Treialu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau, fel trafnidiaeth
  • Hwyluso gwybodaeth ac ymgysylltiad cymunedol i nodi gallu cymunedau i ymdopi, a'r gallu i hwyluso darparu gwasanaethau
  • Prosiectau sy'n meithrin gallu actorion lleol i'w caniatáu i ddarparu gwasanaethau lleol
  • Prosiectau arloesol sy'n gwella iechyd a lles pobl leol
  • Ymchwil ac ymweliadau â phrosiectau eraill sy'n enghreifftiau o arfer gorau
  • Prosiectau sy'n datblygu cyfleoedd i wirfoddoli a lleoliadau hyfforddi
  • Cymorth i ddatblygu canolbwyntiau cymunedol
  • Prosiectau sy'n treialu ffyrdd amgen o ddarparu gwasanaethau anstatudol.

Ynni adnewyddadwy ar lefel Gymunedol

Arwain
  • Gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned i ledaenu gwybodaeth am ynni adnewyddadwy (YA) i gymunedau
  • Archwiliadau ynni i nodi cymunedau sy'n boethfannau ar gyfer YA neu effeithlonrwydd ynni
  • Prosiectau sy'n cefnogi cwtogi ar dlodi tanwydd yn y sir
  • Prosiectau sy'n defnyddio buddion cymunedol YA i liniaru tlodi
  • Prosiectau sy'n cefnogi busnesau i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon
  • Prosiectau sy'n defnyddio adnoddau naturiol i ddarparu datrysiadau lleol
  • Dulliau o hwyluso cymorth gan gymunedau trwy ymweliadau ymgyfarwyddo a mentora
  • Gweithgareddau ymgysylltu i ledaenu gwybodaeth am YA i dirfeddianwyr a busnesau gwledig
  • Cyrchu tanwydd o goetiroedd cymunedol.

Manteisio ar dechnoleg ddigidol

Arwain
  • Prosiectau sy'n cynyddu nifer y bobl yn y sector busnes a'r sector cymunedol sy'n defnyddio technolegau digidol
  • Prosiectau sy'n defnyddio technolegau digidol i ddarparu gwasanaethau
  • Prosiectau sy'n adeiladu ar blatfformau sydd eisoes yn bodoli ar y we neu sy'n creu rhai newydd
  • Prosiectau sy'n cynyddu nifer y busnesau sy'n defnyddio technoleg ddigidol i'w gwneud yn fwy cynhyrchiol ac effeithiol
  • Treialu cynlluniau mentora neu gyfeillio i annog defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
  • Treialu ffyrdd arloesol o ddefnyddio technolegau newydd i ddarparu gwybodaeth.

Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol

Arwain
  • Prosiectau sy'n gwneud y defnydd gorau o asedau naturiol, fel mentrau tyfu bwyd cymunedol neu goetiroedd cymunedol
  • Datblygu gweithgareddau newydd sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd naturiol a threftadaeth
  • Meithrin gallu digwyddiadau i annog cynaliadwyedd
  • Datblygu syniadau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector gweithgareddau awyr agored
  • Datblygu syniadau sy'n cysylltu cynhyrchwyr, adwerthwyr, arlwywyr ac ymwelwyr a chynhyrchion â'i gilydd
  • Gwella gwybodaeth darparwyr twristiaeth lleol am yr amgylchedd naturiol a hanesyddol lleol

Arallgyfeirio ar Ffermydd

Farm Diversification

Roedd y Cynllun Arallgyfeirio ar Ffermydd yn brosiect strategol dan Echel 3 y Cynllun Datblygu Gwledig a oedd ar waith rhwng 2011 a 2014. Nod y prosiect oedd datblygu'r sector amaethyddol ym Mhowys i ddod yn sector dynamig a chystadleuol.

Darllen Mwy

Powys Gydnerth

Resilient Powys

Fe gyflenwodd Prosiect Powys Gydnerth raglen o gefnogaeth a chymorth ariannol i annog mentrau datblygu arloesol, o'r bôn i'r brig, ar raddfa fach dan arweiniad busnes a'r gymuned, gan gefnogi arallgyfeirio'r economi wledig a gwella ansawdd bywyd i ddinasyddion Powys. Nodwyd amrywiaeth o amcanion strategol y byddai gweithgareddau'n cael eu cyflawni yn eu herbyn.

Darllen Mwy

Twristiaeth Gynaliadwy Powys

Sustainable Tourism Powys

Rhaglen newydd arloesol yr oedd Cyngor Sir Powys yn ei chyflenwi oedd Twristiaeth Gynaliadwy Powys, i gefnogi a datblygu twristiaeth ym Mhowys i'w wneud yn sector dynamig a chystadleuol. Roedd y prosiect yn cynnig cymorth amrywiol a ddatblygodd ac a hybodd yr hyn sy'n cael ei gynnig i dwristiaid ym Mhowys gan gynnwys; cynlluniau grantiau, marchnata â thargedau penodol, a chyngor a chymorth busnes.

Darllen Mwy

Twristiaeth Gynaliadwy Powys

Rhaglen newydd arloesol yr oedd Cyngor Sir Powys yn ei chyflenwi oedd Twristiaeth Gynaliadwy Powys, i gefnogi a datblygu twristiaeth ym Mhowys i'w wneud yn sector dynamig a chystadleuol. Roedd y prosiect yn cynnig cymorth amrywiol a ddatblygodd ac a hybodd yr hyn sy'n cael ei gynnig i dwristiaid ym Mhowys gan gynnwys; cynlluniau grantiau, marchnata â thargedau penodol, a chyngor a chymorth busnes.

Nod cyffredinol y prosiect oedd:

"datblygu sector twristiaeth sy'n ddynamig, yn gynaliadwy ac yn gystadleuol, sy'n cefnogi'r economi leol i gynnal yr agweddau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar y gymuned"

I gael gwybod mwy am rai o’r prosiectau a gefnogwyd, cliciwch ar yr astudiaethau achos isod:

Fy Nghanolbarth Cymru i

Mae Cyngor Sir Powys, gyda nawdd Cynllun Datblygu Gwledig Cymru sy'n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, wedi datblygu brand twristiaeth newydd ...
Darllen Mwy

Glampio Eco Gyfeillgar

Mae gan Emma Price a'r teulu o Ddolbedwyn, Llannewydd ger Y Gelli Gandryll bedair erw o goetir hardd a gwlyptir. Bum mlynedd yn ôl, penderfynwyd gwneud defnydd o'r tir hwn trwy osod dau tipi yno i'w ...
Darllen Mwy

I Ffwrdd a Ni

Mae bwyd o'r radd flaenaf yn eich aros ar hyd Lwybrau Bwyd Aberhonddu, felly beth am roi'ch car o'r neilltu a mynd ar y bws lle gallwch chi ymlacio a mwynhau'r golygfeydd ysblennydd. Mae'r daflen newy ...
Darllen Mwy

Mynd yn Wyllt yng Nghanolbarth Cymru

Grwp o fusnesau twristiaeth o'r un meddylfryd yw Canolbarth Cymru Naturiol, a'i nod yw cefnogi hybu a datblygu twristiaeth bywyd gwyllt yng Nghanolbarth Cymru. Lansiwyd y grwp ar 29ain Ionawr 2014 yn ...
Darllen Mwy

Powys Hygyrch

Mae llyfr canllaw newydd - 'A Guide to Accessible Activities' - a lansiwyd yn gynharach eleni, yn arddangos y gweithgareddau sydd ar gael i bawb ledled y sir, ac mae hefyd yn dwyn sylw at, ac yn manyl ...
Darllen Mwy

Rhyfeddu at Red Ridge

Mae Canolfan Red Ridge yn ganolfan gweithgareddau awyr agored, yng Nghefn Coch, ger Y Trallwng. Maent yn cynnig ystod eang o gy eusterau a gweithgareddau ar y sa e ac oddi ar y sa e. Mae'n Hostel V ...
Darllen Mwy

Trafnidiaeth Powys ar y Lôn

Mae Twristiaeth Gynaliadwy Powys wedi ariannu gwahanol fentrau dan thema Cludo Ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu nifer o lyfrynnau gwybodaeth i hybu'r prif lwybrau trafnidiaeth cyhoeddus fel prof ...
Darllen Mwy

Dod yn aelod o LAG

Os hoffech chi gofrestru’ch diddordeb mewn dod yn aelod o’r Grŵp, llenwch y Ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb A Ffurflen Aelodaeth OPLAG

I ddysgu rhagor am waith yr OPLAG neu i drefnu i ddod yn aelod o OPLAG, cysylltwch â:

Louise White, Swyddog Rhaglen CDG
Ffôn: 01597 827072/07773 818391
E-bost: louise.white(at)powys.gov.uk

 

Bydd pob ymholiad a mynegiant o ddiddordeb ynghylch cais am aelodaeth yn cael ei drin yn gyfrinachol ac yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.

Dilynwch ni ar Twitter

tweet icon

Find out how to improve your online marketing at the free #Superfastbiz workshop in #Brecon on 17th July. Book now:… twitter.com/i/web/status/1…

tweet icon

Darganfod sut i wella’ch marchnata ar-lein yn y gweithdy (am ddim) #cyflymucymru yn Aberhonddu ar 17eg Gorff. Arche… twitter.com/i/web/status/1…

Ymuno â'n Rhestr Bostio