Mae dull LEADER o weithredu wedi'i seilio ar rymuso pobl leol i ddatblygu eu datrysiadau eu hunain i faterion lleol trwy ddatblygu strategaeth a dyrannu adnoddau yn lleol. Y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) yw'r prif gyfrwng ar gyfer cymhwyso dull LEADER o drin gwaith datblygu ardal a chynnwys cynrychiolwyr lleol mewn gwneud penderfyniadau.
Daw'r acronym 'LEADER' o'r geiriau Ffrengig "Liaison Entre Actions de Développement de l'Économie Rurale", sy'n golygu 'Cysylltiadau rhwng yr economi wledig a chamau datblygu'.
Mae'r dull datblygu lleol hwn yn caniatáu i actorion lleol ddatblygu ardal trwy ddefnyddio'i photensial mewndarddol i ddatblygu. Y syniad yw sicrhau ynni ac adnoddau pobl a chyrff a allai gyfrannu at y broses datblygu gwledig trwy lunio partneriaethau ar lefel is-ranbarthol rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a sifil.
Mae Powys wedi bod yn cyflenwi rhaglen LEADER yn llwyddiannus ers 1992 ac mae wedi dysgu ac wedi cael profiad o'r hyn y mae disgwyl i Grŵp Gweithredu Lleol ei gyflawni.
Mae'r dull datblygu lleol hwn yn caniatáu i actorion lleol ddatblygu ardal trwy ddefnyddio'i photensial mewndarddol i ddatblygu. Y syniad yw sicrhau ynni ac adnoddau pobl a chyrff a allai gyfrannu at y broses datblygu gwledig trwy lunio partneriaethau ar lefel is-ranbarthol rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a sifil.
Mae'r dull datblygu lleol hwn yn caniatáu i actorion lleol ddatblygu ardal trwy ddefnyddio'i photensial mewndarddol i ddatblygu. Y syniad yw sicrhau ynni ac adnoddau pobl a chyrff a allai gyfrannu at y broses datblygu gwledig trwy lunio partneriaethau ar lefel is-ranbarthol rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a sifil.
- Annog menter ac entrepreneuriaeth,
- Manteisio ar ein hadnoddau naturiol a dynol,
- Defnyddio cryfderau ac asedau ar y cyd i'r eithaf i ddatblygu datrysiadau cymunedol,
- Meithrin a broceru sgiliau,
- Cydweithio, cydweithredu, cyfathrebu a chydgynhyrchu.
Mae'r rhain yn gyson â themâu blaenoriaeth LEADER a byddan nhw'n cyfiawnhau ac yn arwain y gwaith o dargedu buddsoddiad LEADER.
O fewn y Strategaeth Datblygu Lleol (LDS) ar gyfer Powys, nodwyd yr anghenion neu'r cyfleoedd a ganlyn, y gallai LEADER eu hariannu, dan bob un o'r pum thema:
- Prosiectau sy'n gwneud y defnydd gorau o asedau naturiol, fel mentrau tyfu bwyd cymunedol neu goetiroedd cymunedol
- Datblygu gweithgareddau newydd sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd naturiol a threftadaeth
- Meithrin gallu digwyddiadau i annog cynaliadwyedd
- Datblygu syniadau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector gweithgareddau awyr agored
- Datblygu syniadau sy'n cysylltu cynhyrchwyr, adwerthwyr, arlwywyr ac ymwelwyr a chynhyrchion â'i gilydd
- Gwella gwybodaeth darparwyr twristiaeth lleol am yr amgylchedd naturiol a hanesyddol lleol
- Prosiectau sy'n cysylltu sgiliau ac anghenion â'i gilydd (Cronfeydd Sgiliau)
- Datblygu partneriaethau busnes newydd neu ehangu rhai sydd eisoes yn bodoli
- Datblygu cynlluniau mentora/llysgenhadon
- Prosiectau sy'n creu diwylliant entrepreneuraidd ac arloesol
- Prosiectau sy'n galluogi cyflogi pobl leol
- Datblygu cynhyrchion neu brosesau newydd
- Datblygu a/neu adeiladu ar frandiau Powys
- Treialu dulliau arloesol o weithredu wrth ddatblygu cadwyni cyflenwi
- Prosiectau sy'n defnyddio dulliau arloesol o gynyddu nifer y busnesau sy'n ymgysylltu â gwasanaethau cymorth cyhoeddus a phreifat.
- Treialu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau, fel trafnidiaeth
- Hwyluso gwybodaeth ac ymgysylltiad cymunedol i nodi gallu cymunedau i ymdopi, a'r gallu i hwyluso darparu gwasanaethau
- Prosiectau sy'n meithrin gallu actorion lleol i'w caniatáu i ddarparu gwasanaethau lleol
- Prosiectau arloesol sy'n gwella iechyd a lles pobl leol
- Ymchwil ac ymweliadau â phrosiectau eraill sy'n enghreifftiau o arfer gorau
- Prosiectau sy'n datblygu cyfleoedd i wirfoddoli a lleoliadau hyfforddi
- Cymorth i ddatblygu canolbwyntiau cymunedol
- Prosiectau sy'n treialu ffyrdd amgen o ddarparu gwasanaethau anstatudol.
- Gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned i ledaenu gwybodaeth am ynni adnewyddadwy (YA) i gymunedau
- Archwiliadau ynni i nodi cymunedau sy'n boethfannau ar gyfer YA neu effeithlonrwydd ynni
- Prosiectau sy'n cefnogi cwtogi ar dlodi tanwydd yn y sir
- Prosiectau sy'n defnyddio buddion cymunedol YA i liniaru tlodi
- Prosiectau sy'n cefnogi busnesau i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon
- Prosiectau sy'n defnyddio adnoddau naturiol i ddarparu datrysiadau lleol
- Dulliau o hwyluso cymorth gan gymunedau trwy ymweliadau ymgyfarwyddo a mentora
- Gweithgareddau ymgysylltu i ledaenu gwybodaeth am YA i dirfeddianwyr a busnesau gwledig
- Cyrchu tanwydd o goetiroedd cymunedol.
- Prosiectau sy'n cynyddu nifer y bobl yn y sector busnes a'r sector cymunedol sy'n defnyddio technolegau digidol
- Prosiectau sy'n defnyddio technolegau digidol i ddarparu gwasanaethau
- Prosiectau sy'n adeiladu ar blatfformau sydd eisoes yn bodoli ar y we neu sy'n creu rhai newydd
- Prosiectau sy'n cynyddu nifer y busnesau sy'n defnyddio technoleg ddigidol i'w gwneud yn fwy cynhyrchiol ac effeithiol
- Treialu cynlluniau mentora neu gyfeillio i annog defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
- Treialu ffyrdd arloesol o ddefnyddio technolegau newydd i ddarparu gwybodaeth.