Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.arwain.cymru
Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Arwain, y Rhaglen LEADER ym Mhowys, sy'n rhan o dîm Adfywio Cyngor Sir Powys. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
· llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
· llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
· gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon ar gael yn llawn:
· ni allwch addasu uchder llinell na bylchu testun
· nid yw’r dogfennau PDF hynaf yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
· Defnyddir tanlinellu yn hytrach na bylchau rhwng y geiriau wrth enwi ffeiliau a lawrlwythir
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon ar fformat gwahanol, er enghraifft PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
· anfonwch e-bost at RDP@powys.gov.uk
· ffoniwch 01597 827 378
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 5 diwrnod gwaith.
Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.. Os gwelwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen yma, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni - RDP@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827 378.
Y weithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Dyfeisiadau Symudol) (Rhif 2) Hygyrchedd 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni clywed, neu os cysylltwch â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun (Relay UK) ar gyfer pobl sy'n D/fyddar, rhai sydd ag amhariad ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer Cyfarwyddiadau Cyflwyno Testun (Text Relay)
Sylwer: Mae Relay UK yn costio 1c y funud yn ychwanegol i'w ddefnyddio, ar ben pris galwad safonol, a gall gysylltu â ni gan ddefnyddio'r ap neu ffôn testun.
Darganfod sut i gysylltu â ni
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Arwain wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan ar gael, yn unol â Rheoliadau Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Dyfeisiadau Symudol ) (Rhif 2) Hygyrchedd 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.
Baich anghymesur
Mae angen gwirio a phennu'r Astudiaethau Dichonoldeb. Fodd bynnag, oherwydd eu nifer, a chan iddynt gael eu cyflwyno gan sefydliadau eraill (felly nid oes gennym yr holl ddogfennau gwreiddiol angenrheidiol er mwyn i ni eu newid), teimlwn y byddai'r ymarfer hwn yn faich anghymesur. Yn y dyfodol, byddwn yn gweithio gyda sefydliadau allanol i sicrhau bod unrhyw gynnwys a gyhoeddir gennym yn hygyrch.
Mae'r system a ddefnyddiwn i wneud ein gwefan yn defnyddio tanlinellu yn hytrach na bylchau rhwng y geiriau wrth enwi ffeiliau (gwelir hyn pan gaiff dogfennau eu lawrlwytho oddi ar wefan, e.e. y Ffurflen Gais). Nid oes modd atal hyn. er mwyn newid hyn byddai angen i ni symud y wefan gyfan a’i gosod ar system newydd. Gan fod y rhaglen LEADER yn dod i ben cyn bo hir byddai hyn yn rhy gostus.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFs a dogfennau eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu datrys mater rhifynnau Yr Adfywiwr a luniwyd cyn Medi 2018.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gwneud ein gorau i geisio datrys y mater a amlinellir uchod. Yn y dyfodol , bydd materion yn ymwneud â'r Adfywiwr yn cael eu cynhyrchu mewn fformat hygyrch a bydd y cynnwys yn cael ei wirio am hygyrchedd cyn cael ei lanlwytho.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 23 Medi 2020.
Rhoddwyd prawf ar y wefan hon ddiwethaf ar 1 Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Trimast Systems Limited.
Oherwydd maint bach y wefan, cafodd ei brofi’n llawn.