Roedd y Cynllun Arallgyfeirio ar Ffermydd yn brosiect strategol dan Echel 3 y Cynllun Datblygu Gwledig a oedd ar waith rhwng 2011 a 2014. Nod y prosiect oedd datblygu'r sector amaethyddol ym Mhowys i ddod yn sector dynamig a chystadleuol.
Fe gyflenwodd Prosiect Powys Gydnerth raglen o gefnogaeth a chymorth ariannol i annog mentrau datblygu arloesol, o'r bôn i'r brig, ar raddfa fach dan arweiniad busnes a'r gymuned, gan gefnogi arallgyfeirio'r economi wledig a gwella ansawdd bywyd i ddinasyddion Powys. Nodwyd amrywiaeth o amcanion strategol y byddai gweithgareddau'n cael eu cyflawni yn eu herbyn.
Rhaglen newydd arloesol yr oedd Cyngor Sir Powys yn ei chyflenwi oedd Twristiaeth Gynaliadwy Powys, i gefnogi a datblygu twristiaeth ym Mhowys i'w wneud yn sector dynamig a chystadleuol. Roedd y prosiect yn cynnig cymorth amrywiol a ddatblygodd ac a hybodd yr hyn sy'n cael ei gynnig i dwristiaid ym Mhowys gan gynnwys; cynlluniau grantiau, marchnata â thargedau penodol, a chyngor a chymorth busnes.
Mae rhaglen ariannu LEADER ym Mhowys yn tynnu at ei therfyn ac felly mae Grŵp Gweithredu Lleol Powys Yn Un wedi cytuno i sefydlu Cynllun Grant Bach Arwain er mwyn defnyddio'r arian sy'n weddill a heb ei gyflwyno. Mae angen gwario'r nawdd hwn erbyn 15/04/2022.
Gall ymgeiswyr wneud cais am grant hyd at uchafswm sy'n werth £7,000 (does dim isafswm trothwy) ac mae angen darparu o leiaf 20% o arian cyfatebol tuag at gyfanswm cost eu prosiect 80% cyfradd ymyrryd £7,000 ac arian cyfatebol yr ymgeisydd sef £1,750.
Er bod unrhyw un yn gallu ymgeisio, caiff ceisiadau oddi wrth grwpiau cymunedol a sefydliadau bach sydd â throsiant is na £100k y flwyddyn eu croesawu oddi wrth ymgeiswyr nad ydynt wedi derbyn unrhyw nawdd hyd yma oddi wrth Arwain. Mae pwyntiau bonws ar gael mewn perthynas â hyn oddi fewn i'r broses sgorio.
Mae pwyntiau bonws hefyd ar gael i brosiectau sy'n cynorthwyo adferiad wedi COVID-19.
Mae'r nodiau canllaw ar y wefan gyda'r ffurlen gais a'r canllaw dangosydd perfformiad.
Llenwch y ffurflen gais a'i hanfon at y tîm RDP. Bydd y tîm wedyn yn ystyried y cais gan ddefnyddio'r templed asesu safonol.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw Dydd Sul 5 Rhagfyr 2021.
Cysylltwch â'r tîm ar rdp(at)powys.gov.uk neu 01597 827378 os hoffech drafod y mater ymhellach.
Ffurflenni a Chanllawiau
Canllawiau Ymgeisio i Gynllun Grant Bach LEADER
Size: 511.8 KB
Canllawiau Dangosyddion Perfformiad
Size: 401.21 KB
Tabl Rhesymeg Ymyrryd
Size: 511.91 KB
Strategaeth Datblygu Lleol Powys yn Un
Size: 1.59 MB
Asesiad Cynllun Grant Bach Arwain
Size: 268.93 KB
Ffurflen Gais – Cronfa Grantiau Bach
Size: 416.16 KB
Asesiad Cymorth Gwladwriaethol
Size: 171.42 KB
Dod yn aelod o LAG
Os hoffech chi gofrestru’ch diddordeb mewn dod yn aelod o’r Grŵp, llenwch y Ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb A Ffurflen Aelodaeth OPLAG
I ddysgu rhagor am waith yr OPLAG neu i drefnu i ddod yn aelod o OPLAG, cysylltwch â: